Mae Will Evans yn edrych i lawr o ganol tai teras North Hill. Yn y gornel dde ar y gwaelod mae wal ochr Clwb y Gweithwyr (Tŷ Tom Jones bellach), sydd drws nesaf i Oriel Gelf Glynn Vivian – gyferbyn â’r llyfrgell a’r coleg celf lle’r oedd yn gweithio. Y gwagle hir yn y canol yw llinell College Street sy’n rhedeg i mewn i Ffordd y Brenin, a alwyd bryd hynny’n Gower Street a Heathfield Street.
Mae’r domen ddi-siâp y tu hwnt yn dangos sut y dinistriwyd canol y dref gan y bomio. Un o’r problemau o ran cysylltu’r dref heddiw
ag Abertawe yn y tridegau yw’r diffyg tirnodau, ond mae un yn sefyll allan, sef adeilad golau hir, bwaog a oedd yn rhedeg ar hyd Castle Street o ben Welcome Lane i Worcester Place, neu o hen siop Argos i adfeilion y castell!
Ym mis Ionawr 1942, cyhoeddodd y ‘Daily Express’ ffotograff ongl lydan o Abertawe o ardal y Santes Faer, lle mae’r adeilad crand hwn yn edrych bron fel yr unig adeilad oedd ar ôl yn y dref.
Roedd y tu mewn i’r adeilad hwn a godwyd ym 1912 pan gafodd Castle Street ei hehangu, wedi’i ddinistrio’n llwyr ond roedd yn ddigon cadarn i’w ailadeiladu.
Gerald Gabb, 2021