‘Pe baech yn sefyll ar y man hwn heddiw, byddech y tu allan i ddrws uchaf McDonald’s, yn edrych draw ar waelod hen siop David Evans (siopa Zara bellach) – mae’r gornel a’r drws adfeiliedig yn amlwg iawn, yn y canol ar y chwith. Fe’i sefydlwyd ar y safle hwn ym 1899 gan Mr Evans a’r brodyr Andrews. Ar y dde mae adfeilion gwag Ben Evans sy’n edrych fel set ffilmiau dychrynllyd. Mae’r Ystafelloedd Arddangos Trydan a’r Three Lamps yn rhan o’r bloc hwn ar y dde hefyd, er bod bron pob un o’r gweddill yn rhan o’r siop enfawr.
Mae tŵr yr ‘Evening Post’ eto’n amlwg iawn yn y canol, a’r ffordd a oedd yn arwain ato, sy’n balmant heddiw, oedd Temple Street. Mae’r adfail tywyll ar y chwith eithaf ar gornel Stryd Rhydychen, lle mae safle Miss Selfridge heddiw, gan gofio bob amser bod ein strydoedd yn tueddu i fod yn llawer lletach. Byddai tro i’r chwith neu’r dde yma’n eich arwain i mewn i Goat Street’.Gerald Gabb, 2021