Mae marchnad hynod boblogaidd Abertawe yn un o nodweddion eiconig y ddinas. A hithau wedi bod ar ei safle presennol ers 1830, fe’i difrodwyd yn wael yn ystod Blitz 1941.
Mae’r artist Will Evans (1888-1957), a aned yn Abertawe, wedi darlunio’r brif fynedfa fawr, gyferbyn â Portland Street, gan roi’r argraff bod y farchnad yn gyfan, ond, mewn gwirionedd roedd y to enfawr wedi’i ddinistrio’n llwyr.
Mae’n baentiad lliwgar, digon rhyfedd, yn yr ystyr bod y gwyliwr yn gallu gweld y rwbel yn y stryd ond mae’r olygfa’n fôr o oleuni’r sydd bron yn gyfandirol.
Mae’n ymddangos bod gan yr artist ddiddordeb yn siapiau’r gweddillion sydd wedi cwympo, sy’n rhoi natur rhannol haniaethol i’r paentiad. Ni chaiff digalondid ei gyfleu ond yn hytrach, ymdeimlad o herfeiddiwch ac yn rhyfedd ddigon, teimlad o wytnwch oherwydd er gwaethaf y difrod a wnaed gan y Luftwaffe, fe oroesodd ysbryd y farchnad yn gyfan oherwydd fe’i hailadeiladwyd ym 1961. Mae wedi aros yn nodwedd ganolog yng nghanol Abertawe hyd heddiw,
symbol o gymuned, sydd bellach yn cynnwys amrywiaeth o fusnesau sy’n cynnig bwyd lleol a rhyngwladol ac amrywiaeth eang o nwyddau. Hon yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru bellach, a chaiff gwelliannau pellach ei gwneud iddi’n fuan a fydd yn cynnwys ardal gymunedol aml-ddefnydd. Mae paentiad Will Evans, sydd bron yn broffwydol, yn dyst i ysbryd pobl Abertawe a’u gwytnwch wrth oresgyn amserau tywyll.Barry Plummer, 2020