Rydym yn edrych tua’r gorllewin ar hyd Gower Street tuag at Heathfield Street, ill dau bellach yn rhan o Ffordd y Brenin. Mae’r strydoedd gorlawn hyn, a oedd yn barhad o College Street, wedi hen fynd. Un eithriad yw Capel Mount Pleasant a lwyddodd i osgoi difrod difrifol er ei fod yn adeilad mawr iawn. Nid oedd hyn yn wir ar gyfer yr hyn a elwir bellach yn Ganolfan Gelf, Dylunio a Chyfryngau Dinefwr, sy’n syth y tu ôl iddo. Enghreifftiau o hyn oedd sinema enfawr y Plaza, a fyddai ychydig allan o’r golwg yng nghefndir y llun hwn, a’r orsaf heddlu yn Orchard Street.
Gerlad Gabb, 2021