Rydym ychydig uwchben adfeilion siop wreiddiol David Evans, gyda thŵr crwn Castell Abertawe yn y canol yn y pellter. Mae tirnod arall gerllaw iddo – tŵr sgwâr swyddfeydd yr Evening Post, a oedd yn sefyll ar bwys Castle Bailey Street. Sylwch ar gyflwr gwael pen ochr dde’r adeilad papur newydd ar ôl y bomio. Atgyweiriwyd y tu blaen isaf, ac ysgrifennwyd a chyhoeddwyd yr Evening Post ar y safle hwn nes iddo symud i floc modern yn Adelaide Street ym 1968. Cafodd yr adeilad gwreiddiol, eithaf crand, ei ddymchwel. Swyddfa Bost Abertawe oedd hwn yn wreiddiol, a gwblhawyd ym 1856.
Gerald Gabb, 2021