Rydym yn edrych i lawr Caer Street tuag at wal mynwent Eglwys y Santes Fair; mae’r wal hon yn rhedeg ar hyd yr hyn a ailenwyd yn Sgwâr y Santes Fair ym 1937, ar ôl treulio blynyddoedd lawer fel Calvert Street. Byddai nifer o’r adeiladau ar y chwith yn cael eu cynnwys yn lled eang Ffordd y Dywysoges, ger pen gwaelod McDonald’s. Yr hyn sy’n edrych fel eglwys fomiedig yn y tu blaen yw hen neuadd gyfarfod y Seiri Rhyddion a ddefnyddiwyd o 1872 tan ganol y 1920au. Erbyn 1939, roedd yn wag’.
Gerald Gabb, 2021