Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Oriel Glynn Vivian wedi derbyn dau gerflun newydd gan yr artist Carlos Bunga’n ddiweddar, a fydd yn rhan o gasgliad parhaol yr oriel yn dilyn ei arddangosfa fawr, Terra Ferma, yn 2021. Cafodd y cerfluniau eu caffael gan y Gymdeithas Celf Gyfoes ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r gymdeithas ac i Carlos Bunga am y caffaeliadau newydd hyn, a roddwyd gan Carlos drwy’r Gymdeithas Celf Gyfoes.
Mae’r rhodd hon yn cefnogi’n gwaith parhaus gydag artistiaid cyfoes lleol a rhyngwladol a wahoddir i gymryd rhan yn ein casgliadau parhaol mewn ffyrdd blaengar.
Comisiynwyd y cerfluniau hyn fel rhan o arddangosfa Bunga, Terra Ferma yn 2021. Ar gyfer yr arddangosfa hon dewisodd Bunga sawl paentiad o dirluniau hanesyddol, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn dod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae nifer o’r rhain yn brydferth, yn rhamantaidd ac yn ddelfrydol, ac yn cynnwys elfennau o wylltineb, gan ddangos cyfnod cyn neu ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol, yn ogystal ag effeithiau gwladychiaeth a chyfalafiaeth hwyr. Mae’r paentiadau a’r cerfluniau rhyfedd hyn yn ein gwahodd ni i ystyried ein sefyllfa yn y cyfnod hwn o argyfwng, ac i feddwl am y ffyrdd gwahanol y gall dynoliaeth a’r byd symud ymlaen.
Roedd y comisiwn hwn yn rhan o gyfres o arddangosfeydd yr oriel â’r teitl Sgyrsiau â’r Casgliad, lle mae’r oriel yn gwahodd artistiaid, curadwyr a chymunedau i weithio gyda’r casgliad parhaus.
Mae Carlos Bunga yn creu adeileddau ac ymyriadau o ddeunyddiau pob dydd a fasgynhyrchwyd fel cardbord, tâp a phaent i’r cartref. Mae ei waith yn aml yn benodol i safle ac yn ein hannog i ailfeddwl y ffyrdd rydym yn profi lleoedd pensaernïol a’r byd o’n cwmpas. Ysbrydolwyd ymarfer Bunga hefyd gan ei ffordd o fyw y mae’n ei disgrifio fel un nomadig, gan ddefnyddio’u profiadau o ddadleoliad, colled a symud.
Roedd yn adnabyddus yn flaenorol am ei waith a oedd yn archwilio ardaloedd trefol, pensaernïaeth a deunyddiau a fasgynhyrchwyd yn benodol, ond yn ddiweddar mae wedi dechrau canolbwyntio ar ein perthynas ddinistriol â’r byd naturiol er mwyn ystyried ffyrdd ymlaen a ffyrdd amgen o fyw; dangoswyd hyn yn ei sioe ddiweddar yn Oriel Whitechapel, Llundain, lle ystyriodd y gymuned y Siglwyr.
Yn y cerfluniau a gomisiynwyd ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian, gellir gweld darnau o natur fel rhisgl a brigau yn y gwaith, yn ogystal â gweddillion tirweddau trefol – darnau o adeiladau, tyredi a chromenni. Mae’r lliwiau’n amrywio o liwiau organig i rai llachar, gan gynnwys darnau o rhisgl a phaent gwaith maen ac eitemau organig wedi’u cymysgu â sbwriel trefol.
Cymerwch gip ar yr arddangosfa ac ar y gyfres o berfformiadau a gomisiynwyd fel rhan o’r gwaith.
Mae Carlos Bunga (g. 1975, Porto, Portiwgal) yn byw ac yn gweithio ger Barcelona ar hyn o bryd. Mae ei sioeau unigol diweddar yn cynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Secession, Fienna (2021); MOCA, Toronta; Whitechapel, Llundain (2020). Mae sioeau grŵp yn cynnwys Alexander and Bonin, Efrog Newydd (2020-2021); Biennale Gherdëina 7, Ortisei, Val Gardena, yr Eidal (2020); Caixaforum, Barcelona (2019). Mae ei waith yn rhan o nifer o gasgliadau parhaol, gan gynnwys yr Amgueddfa Celf Fodern (Efrog Newydd); Casgliad Celf Fodern “la Caixa” (Barcelona) ac amgueddfa Hammer (Los Angeles).
Llinell gydnabod: Cyflwynwyd gan y Gymdeithas Celf Gyfoes, 2021/22 (for Untitled #9).
Rhoddwyd gan yr artist drwy’r Gymdeithas Celf Gyfoes, 2021/22 (for Untitled #17)
Cydnabyddiaeth am y llun: Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Lluniau: Polly Thomas