Mae preswylwyr Abertawe’n helpu i nodi lansiad Land Dialogues, prosiect newydd gyda’r artist Owen Griffiths a grwpiau cymunedol a fydd yn ailddychmygu gardd y Glynn Vivian fel lle gwyrdd dinesig.
Gofynnwyd i sefydliadau partner cymunedol yn y ddinas dyfu blodau haul gartref a dod ag un eginblanhigyn yn ôl i’r oriel i fod yn rhan o’r ardd newydd. Caiff pob blodyn haul ei gofnodi gydag enw’r person a’i roddodd.
Casglwyd yr hadau blodau haul oddi wrth GRAFT, gardd gymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Fe’u cynaeafwyd o blanhigion y llynedd, a gynaeafwyd o blanhigion y flwyddyn cyn hynny.
Meddai’r artist Owen Griffiths, “Mae blodau haul yn hawdd i’w tyfu ac mae ganddynt amrywiaeth o fuddion – maen nhw’n cynnal bioamrywiaeth gan gynnwys peillwyr pwysig fel gwenyn, adar a phryfed, gallant adfer pridd halogedig a gallant sirioli unrhyw le yn yr awyr agored.
“Pan fyddwch yn plannu’r hadau hyn, rydym yn eich gwahodd i feddwl am sut gallwn wneud ein lleoedd trefol a dinesig yn fwy hygyrch a chydweithredol, yn fwy bioamrywiol ac yn fwy ystyriol o amryfal rywogaethau.
“Efallai mai dyma’r tro cyntaf neu’r canfed tro rydych wedi plannu hedyn, ond mae’r arwydd cyfunol hwn yn cydnabod gwaith y dyfodol bob tro rydym yn ei wneud.”
Meddai Zoe Gealy, Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, “Roedd hadau yn y gymuned yn rhan mor hyfryd o’r prosiect GRAFT yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, felly roedd yn beth perffaith i’w ailadrodd.
“Rydym yn hynod falch o fod mewn partneriaeth â’r Glynn Vivian eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr holl flodau haul yn dod yn ôl i’r ddwy ardd yng nghanol dinas Abertawe’r haf hwn.”
Meddai Karen MacKinnon, Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, “Mae’r Glynn Vivian yn falch iawn o gael gweithio gyda’r artist Owen Griffiths, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a 14:18 Now ar y prosiect Land Dialogues.
“Mae’n wych bod cynifer o unigolion a chymunedau’n cyfrannu at y cam cyntaf; plannu hedyn, er mwyn creu lle gardd dinesig defnyddiol a all ddod â newid er gwell yng nghanol y ddinas.”
Mae’r hadau blodau haul wedi’u rhannu ag ystod o sefydliadau cymunedol, elusennau a phartneriaid, gan gynnwys YMCA Abertawe, Matt’s Café, CRISIS, Cyngor Hil Cymru, cynllun rhannu bwyd Tŷ Fforest, Capel Tabernacl Treforys, Mixtup Abertawe, gwirfoddolwyr GRAFT a chyfranogwyr grŵp cymunedol y Glynn Vivian.
Cymerwch gip ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Glynn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a GRAFT am ddiweddariadau.
Gofynnwyd i gyfranogwyr rannu a thagio unrhyw luniau o’u hadau wrth eu bod yn tyfu @land_dialogues @_owengriffiths @GlynnVivian @graft____ @The_Waterfront
#ProsiectYrArdd
Diwrnodau gollwng hadau:
Oriel Gelf Glynn Vivian – Dydd Gwener 21 Mai a Dydd Sadwrn 22 May, 10am – 2pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – Dydd Gwener 28 Mai, 10am – 2pm
Celfwaith gan Stevie MacKinnon-Smith
Ariennir Land Dialogues gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Fe’i cynhyrchwyd gan Ganolfan Celfyddydau Taliesin mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian, Cyngor Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru.