I nodi 102 o flynyddoedd ers yr Arddangosfa Ryngwladol Dada gyntaf yn Berlin, bydd 31 o artistiaid anabl/byddar, anabl a niwrowahanol yn llwyfannu ymyriadau wedi’u hysbrydoli gan Dada mewn 30 o amgueddfeydd ac orielau ledled Prydain a Gogledd Iwerddon ar yr un diwrnod ar 2 Gorffennaf, 2022.
Bydd yr ymyriadau’n cwmpasu ystod eang o ffurfiau gan gynnwys perfformiadol; yn seiliedig ar amser; byrhoedlog; mympwyol; anghyffredin; isafol; unigol/deuawd/grŵp; digidol a llawer mwy. Mae’r prosiect yn gofyn y cwestiwn – Beth os oedd mudiad Dada wedi dechrau yn 2020 yn ystod y cyfnod clo? Beth bydden nhw wedi’i wneud? A yw nawr yn adeg amserol i atgyfodi ysbryd a hanfod Dada?
Cyflwynir y digwyddiad â’r teitl ‘We are Invisible We are Visible (WAIWAV)‘ gan DASH, y sefydliad celfyddydau gweledol a arweinir gan anabledd ac y dyfarnwyd Gwobr Ampersand 2021 iddo.
Mae’r amgueddfeydd a’r orielau’n cynnwys: Arnolfini, Baltic, Canolfan Celfyddyd Gyfoes Derry, Firstsite, Oriel Focal Point, Oriel Golden Thread, Grizedale Arts, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa ac Oriel Gelf Harris, HOME, The Hepworth Wakefield, Ikon, Oriel John Hansard, Oriel Gelf Leeds, Biennale Lerpwl, Oriel Gelf Manceinion, MIMA, Oriel MK, Modern Art Oxford, Oriel Gelf Newlyn, Nottingham Contemporary, Canolfan Gelfyddydau The Pier, Oriel Site, Tate Prydain, Tate Lerpwl, Tate Modern, Tate St Ives, Towner Eastbourne, Turner Contemporary a VOID.
Yr artistiaid: Stav Meishar; AIM (Art In Motion); Tony Heaton /Terry Smith; Bel Pye; Kristina Veasey; Chris Tally Evans; Porcelain Delaney; Nicola Woodham; Grace Currie; Alice Quarterman; Dora Colquhoun; April Lin 林森; Lisette Auton; Caroline Cardus; Jenette Coldrick; Ashokkumar Mistry; Cheryl Beer; Sonia Boué; Christina Lovey; Alex Billingham; Luke ‘Luca’ Cockayne; Andrea Mindel; gobscure; Jo Munton/Stephanie Finegan; Mianam Bashir/Emma Powell; Aaron Williamson; Sam Metz; Hayley Hindle; Anahita Harding; Chisato Minamimura; Alistair Gentry.
Meddai Mike Layward, Cyfarwyddwr Artistig DASH: “Bydd derbyn y wobr Ampersand ar gyfer yr ymyriad swrrealaidd hwn yn cael effaith enfawr ar gelfyddydau anabledd a hefyd yn dangos bod sefydliadau’r celfyddydau gweledol bellach ar agor ac yn barod i newid. Mae gan DASH hanes hir o gynhyrchu ymyriadau rhagweithiol sy’n parhau ag etifeddiaeth Dada, Abswrdiaeth a Swrrealaeth i’r 21ain ganrif.”
Dyma banel dethol WAIWAV: Lois Keidan: Cyn-gyfarwyddwr Asiantaeth Datblygu Celf Fyw Ryan Hughes: Cyfarwyddwr Biennale Cofentri Linzi Stauvers: Pennaeth Dysgu yn Ikon; Ashokkumar Mistry: Curadur/artist anabl; Aidan Moesby: Curadur/artist anabl; Heather Sturdy: Pennaeth National Partnerships yn Tate; Ceri Barrow: Cydlynydd Plus Tate a Mike Layward: Cyfarwyddwr Artistig DASH.
I gael rhagor o wybodaeth
DASH
Mae DASH yn elusen celfyddydau gweledol a arweinir gan anabledd. Mae’n creu cyfleoedd i artistiaid anabl ddatblygu eu harfer creadigol. Mae’r cyfleoedd hyn i’w cael ar sawl ffurf, o gomisiynau o ansawdd uchel i weithdai yn y gymuned, ac mae’r gwaith y mae’r elusen yn ei greu’n canolbwyntio ar gwmpas ei gweledigaeth a’i chenhadaeth.
Gyda hanes gwaith sy’n cynnwys y celfyddydau gweledol, dawns, theatr, celfyddydau byw a gwyliau yn Swydd Amwythig ers canol y 1990au, daeth DASH yn gwmni cyfyngedig ac yn elusen gofrestredig yn 2001 ac yn 2004 sicrhaodd arian refeniw gan Gyngor y Celfyddydau Lloegr. Yn 2009, penderfynodd DASH arbenigo’i gwaith mewn celfyddydau gweledol, wrth ehangu ei ffiniau daearyddol.
Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, mae DASH wedi ymgymryd â gwaith gwirioneddol arloesol – prosiectau sydd wedi herio canfyddiadau, meithrin a mentora artistiaid byddar ac anabl newydd, annog datblygiad proffesiynol a helpu i greu newid yn y sector.
The Ampersand Foundation
Sefydlwyd The Ampersand Foundation yn 2011 gan y dyn busnes, y casglwr a’r dyngarwr Jack Kirkland i gefnogi’r celfyddydau gweledol. Mae’r sefydliad yn cefnogi arddangosfeydd a phrosiectau o ansawdd uchel, ar yr amod eu bod am ddim i’r cyhoedd o leiaf un diwrnod yr wythnos. Mae hefyd yn cefnogi ehangu casgliadau cyhoeddus. Mae’r Sefydliad yn canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi sefydliadau a phrosiectau yn y DU.
Gwobr Ampersand
Mae Gwobr Ampersand yn agored i bob un o’r 48 o aelodau o rwydwaith Plus Tate. Ei nod yw galluogi’r sefydliad buddugol i wireddu’i brosiect delfrydol ar ffurf arddangosfa, comisiwn newydd, ymyriad lle cyhoeddus neu unrhyw fath arall o brosiect. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y pwnc neu fformat y cynnig ac eithrio bod yn rhaid iddo gael ei gyflwyno gan guradur, cyfarwyddwr neu dîm o guraduron sy’n gweithio yn y sefydliad. Gwobrwyir £125,000 i’r enillydd i wireddu’i gynnig, a £25,000 ychwanegol i gynhyrchu cyhoeddiad cysylltiedig. Bydd y sefydliadau sydd ar ôl ar y rhestr fer yn derbyn £5,000 yr un.