Gweinyddir Gwobr Wakelin gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac mae’n arwain at brynu darn o gelfyddyd gain neu waith crefft ar gyfer casgliad yr Oriel. Gwaith gan artist teilwng o Gymru fydd hwn nad yw ei waith wedi’i gynrychioli’n dda eto mewn casgliadau cyhoeddus. Yn 2021, dewiswyd y gwaith gan yr artist, yr awdur a’r curadur Anthony Shapland, sydd hefyd wedi derbyn y wobr yn flaenorol.
Mae rhywbeth yn digwydd pan fydd artistiaid hefyd yn gweithio ym myd y celfyddydau gweledol. Mae e’ ychydig fel sefyll yn rhy agos at fast radio lle mae’r signal dim ond yn cyrraedd y rheini sydd ymhellach i ffwrdd yn glir; cânt eu rhoi yn y cysgod gan eu cefnogaeth i eraill neu eu teipgastio yng ngoleuni’r buddion y maent yn eu darparu i ymarferwyr neu sefyllfaoedd eraill. Er eu bod wrth wraidd nifer o weithgareddau, maent yn aml mewn perygl o gael eu hanwybyddu fel artistiaid.
Dyna pam roeddwn yn falch iawn o enwebu Cinzia ar gyfer y wobr. Mae ei manwl gywirdeb wrth ysgrifennu a chyflwyno gweithiau – boed y rhieni’n berfformiadwy, yn arddangosfa neu’n gyhoeddiad – yn dangos cynnydd cyson a chysondeb dros nifer o flynyddoedd fel un o’r artistiaid mwyaf ystyriol ac amryddawn sy’n gweithio yma. Mae’r wobr hon yn nodi ei gyrfa a’i heffaith yng Nghymru.
Rwyf wedi adnabod Cinzia ers canol y 90au, dychwelais i Gymru tua’r adeg honno ac roeddem mewn cylchoedd artistiaid gorgyffyrddol. Roedd Cinzia yn rhan o grŵp o artistiaid sef Quincunx, gydag Angharad Pearce Jones, ac roedden ni i gyd yn rhan o’r un byd wrth i g39 dyfu o ddechreuadau bach. Ar yr un pryd, roedd Karen MacKinnon, wyneb newydd yn Chapter wedi lansio cyfres o sioeau dan y faner Ffresh a oedd yn edrych ar waith newydd gan artistiaid yng Nghymru. Roedd ymdeimlad bod cenhedlaeth gyfan o artistiaid yn dod yn fwy gweladwy, bod strwythurau’n newid ac yn magu hyder.
Dros y blynyddoedd daethom ar draws ein gilydd yn ei gwaith yn Cywaith Cymru/Artwork Wales, yn cefnogi comisiynau a gyrfaoedd llawer o artistiaid. Yna bu Cinzia yn ymwneud â sefydlu Elbow Room, asiantaeth celfyddydau cyhoeddus cyn iddi ymuno â g39 lle mae hi bellach yn gweithio gyda fi, yn rhaglennu ac yn datblygu artistiaid. Mae’r ddau ohonom wedi ymrwymo i gefnogi artistiaid eraill, rydym yn treulio llawer o amser yn siarad am y strwythurau sy’n diffinio ‘llwyddiant’ i artistiaid yng Nghymru, yr hierarchaethau a’r disgwyliadau gyrfa, y ffaith y dylai gyrfaoedd artistiaid ganiatáu ar gyfer teulu, amser i ffwrdd neu bethau eraill i ganolbwyntio arnynt, bod ymarfer yn rhan o fywyd, nid ar wahân
iddo. Mae’r ddau ohonom yn anghofio weithiau i gamu’n ôl a chofio ein bod ni’n rhan o’r ecoleg honno.
Cefais y fraint o weithio ar SURVEY II, gydag Jerwood Arts ac oriel SITE, arddangosfa a agorodd yn g39 yn haf 2021 ac a oedd yn cynnwys comisiwn newydd gan Cinzia. Ar y pryd, roedd cyfleoedd ar gyfer prosiectau unigol uchelgeisiol ar raddfa fwy wedi hybu ei gwaith a’i henw da, gan adeiladu ar eiriadur o gyfeiriadau ac ymchwil yr ymchwiliwyd iddo’n dda. Mae hi ar lwybr sy’n cael ei gryfhau gan ymarfer hwy.
Y gwaith y cytunom i’w gyflwyno ar gyfer y wobr brynu oedd Sweet Wall. Fe’i gwnaed ar gyfer Jupiter Artland, yr Alban yn 2020, ac mae’n gyfareddol, er bod hynny’n teimlo fel gair sy’n rhy fach. Mae’r ddelweddaeth ailadroddus a’r naratif cynnil ond uniongyrchol, yn troi o gwmpas motiff canolog siwgr.
Yn y ffilm – wrth i ni roi ein holl sylw i bleserau ailadroddus llinellau ‘candycrush’ yn disgyn yn foddhaol i’w lle, neu wobr felys wedi’i nyddu i gotwm, neu’r siwgr sy’n wyn fel crisial yn syrthio fel eira i mewn i ffrwythau coch ar gyfer jam – mae rhywbeth arall yn treiddio drwyddo. Mae naratif cyfochrog caethiwed, dyhead a boddhad; trawma’r fasnach gaethweision drawsiwerydd, hunaniaeth ôl-drefedigaethol a thrachwant, yn cyd-fynd â hyn.
Mae’r rhythm yn osteg, mae’r ddelweddaeth felys yn cwsg-gerdded y gwyliwr tuag at ddealltwriaeth o gyfranogaeth, o ymddygiad ailadroddus sy’n parhau. Patrwm y ffilm, diwedd y dolenni ailadroddus nad ydynt yn symud yn eu blaenau a’r motiff papur wal sy’n adlewyrchu, yn ailadrodd ac yn adleisio mewn llais gweledol parhaus. Dro ar ôl tro, drachefn a thrachefn.
Mae ymadrodd ynghylch y ffaith ein bod yn ddall i’n gorffennol uniongyrchol, a dim ond amser a phellter sy’n caniatáu i ni weld yn glir y pethau a ddaw â ni i’r presennol sy’n symud yn wastadol. Mae trosiad y byd celf ynghylch darganfod arferion cudd yn ysgytwol o gofio eu bod bob amser yno, ac yn amlwg. Nid ydynt anodd eu cyrraedd nac yn aneglur. Mae Cinzia yn ein hatgoffa bod rhai o’r patrymau neu’r systemau hyn rydym yn symud drwyddynt ddydd ar ôl dydd wedi dod mor anweledig i ni ag aer, ond eu bod yn bodoli ac yn siapio’r byd.
Rwy’n credu bod gwaith Cinzia yn rhyfeddol, ynghyd â’i hymrwymiad i Gymru a’i chefnogaeth a’i mewnbwn i’r byd celfyddydol yma ac rwy’n falch fy mod wedi gallu cefnogi hyn gyda chymorth y Glynn Vivian, Y Cyfeillion, ac wrth gwrs, Peter a Rosemary Wakelin.
Anthony Shapland