Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi dychweliad y dathliad blynyddol o gelfyddydau a chrefftau gan artistiaid a chrewyr sy’n byw ac yn gweithio yn Ninas a Sir Abertawe.
Mae’r arddangosfa ar agor i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn SA1-SA9, gan gynnwys artistiaid a chrewyr proffesiynol a rhai sydd, heb astudio’n ffurfiol, wedi darganfod y manteision a’r heriau sy’n deillio o weithgarwch creadigol.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Y dewiswyr gwâdd eleni yw Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Coleg Celf Abertawe) a’r Athro Uzo Iwobi OBE, sydd ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Polisi Arbenigol Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Dewch a’ch gwaith a’r holl ddogfennau a gwybodaeth I’r Oriel dydd Gwener 5, dydd Sadwrn 6 neu ddydd Sul 7 Tachwedd 2021, 11am-4pm
Ar agor I unrhyw un 16+ sy’n byw neu’n gweithio yn SA1-SA9
Dyddiadau Arddangos: 20.11.2021 - 30.01.2022
RHAID i waith fod wedi’i greu yn ystod y 4 flynedd ddiwethaf.